Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Hydref 2015

Amser: 09.03 - 11.04
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3258


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

Andrew RT Davies AC (yn lle Mohammad Asghar (Oscar) AC)

Alun Ffred Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC)

Tystion:

Leo Bedford, Amber Infrastructure Limited

Giles Frost, Amber Infrastructure Limited

Gareth Morgan, Llywodraeth Cymru

Christopher Munday, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Fay Buckle (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Alistair McQuaid (Swyddfa Archwilio Cymru)

Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru)

Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru)

Nick Tyldesley (Prisiwr Dosbarth)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweler y Trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Andrew RT Davies ar ei ran.

1.2 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

1.4 Mae’r datganiadau o fuddiant a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i'r cyfarfod hwn.

1.5 Yn dilyn erthygl gan y BBC ar 12 Hydref, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod y ffigur o £16.93m wedi’i gymryd o wybodaeth a ddarparwyd gan Lambert Smith Hampton Cyf (LSH) ac mae'n cynnwys:

·         Paragraff 9.19 o gyflwyniad ysgrifenedig LSH i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (ar gael ar wefan y Pwyllgor), sy'n datgelu gwerthiant rhan o safle Trefynwy gan SWLD am £12 miliwn; a

·         Paragraff 3.129 o adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, sy'n cyfeirio at werthiant safleoedd Aberdâr, Bangor a'r Pîl (7 o 13 erw) gan SWLD am £0.43 miliwn, £2.5 miliwn a £2.0 miliwn yn y drefn honno

 

</AI2>

<AI3>

2       Papurau i’w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI3>

<AI4>

3       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 3

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn arfer bod yn gyfrifol am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Buont yn holi James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Christopher Munday, Dirprwy Gyfarwyddwr, Business Solutions a Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trafnidiaeth Gyhoeddus.

·         James Price oedd cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol a Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yr Adran a grëodd Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

·         Chris Munday oedd y swyddog arweiniol a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Gronfa, penodi aelodau'r Bwrdd a dewis yr asedau a drosglwyddwyd o Lywodraeth Cymru i’r Gronfa.  Roedd Mr Munday hefyd yn gweithredu fel sylwedydd Llywodraeth Cymru ar Fwrdd y Gronfa hyd at fis Mehefin 2011.

·         Roedd Gareth Morgan yn cynrychioli’r Adran fel y mae ar hyn o bryd, ar y mewnbwn i’r ymatebion i’r Gronfa. Mae ganddo wybodaeth am gyrff hyd braich.

3.2 Cytunodd James Prisiau i anfon rhagor o wybodaeth am:

·         Y strwythur rheoli llinell sy'n berthnasol i Christopher Munday yn ystod ei gyfnod fel sylwedydd ar Fwrdd y Gronfa a'r dull o gyflwyno adroddiadau i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yn dilyn cyfarfodydd Bwrdd y Gronfa;

·         Egluro pryd y newidiodd y meddylfryd polisi yn ôl i fod yn amgylchedd mwy 'normal' lle gellid gwneud penderfyniadau yn fwy rhesymol, yn hytrach na meddwl yn frys am ‘arwerthiant wedi tân';

·         Safiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r asesiad tai gan Gyngor Caerdydd;

·         Cadarnhad ynghylch a gafodd Bwrdd y Gronfa, fel yr oedd ar y pryd, olwg ar Adroddiad Prisio King Sturge, a phryd;

·         Gwirio a chynghori ynghylch pa wybodaeth a oedd wedi'i chynnwys ym mhecynnau cynefino Aelodau Bwrdd y Gronfa ac a oedd y wybodaeth hon yn amlinellu disgwyliad Llywodraeth Cymru o rôl aelodau Bwrdd y Gronfa.

3.3 Cytunodd Christopher Munday i wirio a chadarnhau a oedd i gyflwyno adroddiad i Weinidogon Cymru ar ei sylwadau ar ôl bod yng nghyfarfodydd Bwrdd y Gronfa, a phryd y dylid gwneud hynny. 

 

</AI4>

<AI5>

4       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn dystiolaeth 4

4.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Giles Frost a Leo Bedford o Amber Infrastructure Cyf fel rhan o'r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

4.2 Cytunodd Giles Frost i wirio'r dyddiadau y bu Amber Infrastructure Cyf yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda Bwrdd y Gronfa y tu allan i drefniadau cyfarfodydd arferol, pa gyfarfodydd, os o gwbl, a gynhaliodd Amber Infrastructure gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, a chadarnhau'r dyddiad y cymeradwywyd y Cynllun Gwireddu Asedau.

 

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

5.1 Oherwydd bod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau y byddai Eitem 1 y cyfarfod ar 20 Hydref yn cael ei gynnal yn breifat.

</AI6>

<AI7>

6       Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

6.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>